Mae’r grwp amgen o’r gogledd, Hap a Damwain, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf. ‘
Poen yn y Baltics’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y ddeuawd arbrofol.
Hap a Damwain ydy dau o gyn aelodau’r grŵp o’r 80au/90au cynnar, Boff Frank Bough, sef Simon Beech (cerddoriaeth, cynhyrchu, offerynnau a thechnoleg) ac Aled Roberts (geiriau, llais a chelf).