Mae’r siwpyr grŵp poblogaidd, Pedair, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 15 Mawrth.
‘Y Môr’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Sain.
Pedair ydy prosiect y bedair cantores talentog Siân James, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Gwenan Gibbard – y bedair yn amlwg iawn fel artistiaid unigol profiadol.
Ers ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y llynedd, mae Pedair wedi cael cyfnod prysur tu hwnt yn gigio ym mhob rhan o Gymru. Mae hyn wedi cynnwys ail berfformiad o gyngerdd yr Eisteddfod Genedlaethol, ‘Y Curiad’, yn Pontio Bangor a hefyd wedi perfformio yng ngŵyl Celtic Connections, Glasgow, ac yn Waterford, Iwerddon.
Yn ddiweddar mae’r bedair wedi bod yn ôl yn Stiwdio Sain, gyda’r cynhyrchydd Aled Wyn Hughes, yn cychwyn ar eu hail albwm ac mae ‘Y Môr’, fel eu sengl ddiwethaf, ‘Machlud a Gwawr’, yn un o’r caneuon fydd yn ymddangos ar yr albwm newydd.
Cân bersonol
Wedi ei chyfansoddi gan Gwenan Gibbard, mae ‘Y Môr’ yn gân bersonol iawn sy’n deillio o brofiad o alar. Er hyn, mae’n gân obeithiol, yn gân o ddiolch am allu codi eto at ‘frig y don’ mewn cyfnod anodd.
“’Dwi’n cyfrif fy hun yn hynod o lwcus o gael byw wrth y môr, a hynny mewn ardal mor hardd â Phwllheli a Phen Llŷn”, meddai Gwenan.
“Dwi’n cerdded wrth y môr bron bob dydd ac mi ddaeth y gân yma wrth i mi droedio ar hyd y prom a chei’r gogledd ym Mhwllheli. Mae’r môr yn rhyw bresenoldeb byw, grymus a chysurlon rywsut ac mae bod yn ei gwmni yn rhywbeth iachus sy’n ysbrydoli ac yn adnewyddu’r enaid. Ond mae’r gân yn fwy na hynny, mae am gefnogaeth rhai sy’n cynnig braich yn gymorth i ‘droedio ar hyd y cerrig man’.
“Rhaid mynd weithiau efo ymchwydd ton – mae rhwystrau yn dod ar draws ein llwybrau ni i gyd yn ein tro ac mae bywyd yn anodd ei ddeall ar adegau ond mae’r môr wastad yn tawelu wedi storm a daw bywyd yn ei ôl eto a dyddiau da yn llawn sgwrs, atgofion, hapusrwydd a gobaith.”
Tyfodd y trefniant o’r gân yn naturiol wrth i’r bedair ddod at ei gilydd yn y stiwdio ac mae’r dealltwriaeth rhyngddynt, fel cerddorion ond hefyd fel pedair cyfeilles, yn amlwg unwaith eto yn yr harmonïau cynnes, yng nghynildeb yr offerynnau ac yn nidwylledd y canu.
Gyda chyfnod prysur arall o gigio o’u blaenau bydd digon o gyfle dros y misoedd nesa i glywed rhagor o ganeuon newydd gan Pedair.
Mae fideo ar gyfer gân hefyd wedi cael ei gyhoeddi ar sianel YouTube Sain.