Mae Siula, sef prosiect newydd Llion Robertson ac Iqra Malik, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers 26 Mawrth.
‘Lucid Love’ ydy enw’r trac sy’n plethu pop-sinematig gydag alawon meddal mewn modd cwbl hudolus.
Yn gerddorol, mae ‘Lucid Love’ yn gweu alawon chwerw-felys gydag hooks hypnotig, tra bod y curiadau cyson yn cydio’n hiraethus a’n efelychu arddull artistiaid fel y Cocteau Twins a Yazoo.
“Mae’r gân yn daith sy’n dangos cyfnodau o gariad a chaethiwed i rywbeth/rhywun, er eich bod yn gwybod nad ydynt yn dda i chi” eglura Iqra.
“Mae’n cyfleu’r da a’r drwg mewn perthynas a’r cryfder a ddaw ar ôl i’r cwbl ddod i ben.”