Mae skylrk. wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf gan obeithio y bydd yn ysgogi tîm rygbi i fuddugoliaeth yn erbyn y Saeson penwythnos yma!
Mae’r trac newydd gan yr artist ifanc wedi cael ei greu i ddathlu ac i gyd-fynd a gemau rygbi y chwe gwlad eleni ac wedi ei ryddhau ar Ddydd Miwisg Cymru.
Prosiect, ac alter ego, Hedydd Ioan ydy skylrk. ac fe ffrwydrodd i amlygrwydd wrth gipio teitl Brwydr y Bandiau Maes B yn Awst 2021.
‘urddas.’ ydy enw ei sengl ddiweddaraf sydd wedi cael ei ysgrifennu i gyd-fynd a chychwyn gemau y chwe gwlad.
Roedd cyfle cyntaf i glywed y trac a gwylio’r fideo arbennig ar S4C cyn gêm gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn diwethaf, 3 Chwefror.
Mae’r trac wedi ei gynhyrchu gan Sachasom, artist fydd yn gyfarwydd iawn i unrhyw un sy’n dilyn cerddoriaeth arbrofol yn y Gymraeg, a chyn-enillydd arall o gystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B.
Mae’r ddau yn cydweithio’n gyson a hyd yn oed wedi lansio prosiect cerddorol ar y cyd dan yr enw SACHASKY. Perfformiodd y ddau yng Ngŵyl Nawr yn Abertawe diwedd y flwyddyn gyda set o’u traciau arallfydol.
Gyda’r trac ‘urddas.’, mae’r ddau yn ceisio dal egni llawer mwy cyfarwydd i’r prif ffrŵd: trac trap a drill sy’n anodd i’w anghofio.
“Mae’r cyfle i gael greu trac fydd yn agoriad i rhywbeth mor fawr yn eitha sureal” meddai Hedydd Ioan, sef skylrk.
“Dwi’n gobeithio bydd pobl yn hoffi’r trac yn amlwg ond yn fwy ‘na hyna da ni wedi ceisio dal egni y gemau [rygbi] dwi’n meddwl – mae’r trac yn un sydd yn bendant wedi cael ei wneud i unrhywun sydd angen egni.”
Bydd y sengl yn cael ei rhyddhau’n swyddogol ar Ddydd Miwsig Cymru, sef 9 Chwefror, ar label INOIS.