Sengl yr Americanwr Balch

Mae cerddor Cymraeg o Califfornia yn paratoi i ryddhau ei sengl newydd yn y Gymraeg ddiwedd mis Mawrth. 

Pawlie ydy enw’r canwr-gyfansoddwr o Santa Barbara sydd wedi bod yn cyfansoddi a recordio cerddoriaeth ers y 1990au, ac sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2022. 

Nawr mae’r cerddor yn barod i ryddhau ei gerddoriaeth cyntaf yn ei iaith fabwysiedig. Enw ei sengl newydd ydy ‘Americanwr Balch’ a bydd yn rhyddhau’r trac ar 29 Mawrth. 

“Mae ‘Americanwr Balch yn broc tafod-yn-y-boch ar agweddau Americanaidd y dyddiau hyn” meddai Pawlie. 

“Ar ôl treulio mis yn teithio o amgylch Cymru’r gwanwyn diwethaf, gwnes i lawer o ffrindiau newydd a chwrdd â phobl o’r un meddylfryd a rannodd fy marn ar drywydd presennol America. 

“Teimlais gysylltiad â Chymru bron ar unwaith, a dechreuais feddwl tybed a fyddai gwrandawyr yn mwynhau clywed Brit o Galiffornia….yn cymryd y p**s allan o America…yn y Gymraeg” ychwanega’r cerddor sydd â dinasyddiaeth dwbl rhwng Prydain ac America. 

“Dechreuais weithio ar delynegionn Cymraeg i ‘Proud American’ o fy albwm 2021 a disgynnodd pethau i’w lle’n gyflym. Gobeithio bydd pobl yn chwerthin ac yn gwerthfawrogi’r neges tafod-yn-y-boch, sarcastig. Dyw hon ddim yn gân wladgarol!”

‘Rhaid rhoi cynnig ar sgwennu yn y Gymraeg’

Ar ôl cael ei fagu yn Lloegr, symudodd Pawlie i America gyda’i deulu. Strymiodd ei gitâr gyntaf yn 13 oed a thyfodd ei ddiddordeb yn gyflym gyda phob agwedd ar gyfansoddi, perfformio a recordio. Arweiniodd hyn yn y pen draw at Brifysgol Califfornia yn Santa Barbara, lle astudiodd beirianneg drydanol fel llwybr i gynhyrchu sain. Mae Pawlie yn gweithio fel athro peirianneg, ond mae ei obsesiwn â cherddoriaeth yn parhau o hyd. 

‘Americanwr Balch’ yw’r tro cyntaf i Pawlie gyfansoddi cân yn y Gymraeg, ac fe ddechreuodd ddysgu’r iaith ar hap meddai. 

“Ces i fy mhasbort DU, ac o dan British Passport roedd yn dweud Pasbort Prydeinig. Sylweddolais taw Cymraeg yw’r unig iaith swyddogol yn y DU heblaw Saesneg, felly penderfynais ddechrau dysgu” eglura. 

“Mae’n iaith anhygoel ar gyfer canu, ac mae diwylliant Cymreig yn rhoi gwerth uchel iawn ar gerddoriaeth, barddoniaeth, llenyddiaeth, a’r celfyddydau – felly sylweddolais yn gynnar fod yn rhaid i mi roi cynnig ar sgwennu yn y Gymraeg!” 

Cân gyntaf yn y Gymraeg efallai, ond mae Pawlie’n hen gyfarwydd â chreu cerddoriaeth ac wedi bod wrthi’n cyfansoddi ers 1990 gan dynnu ar ddylanwadau yn y genres roc, pop, jazz, gwerin a blaegar. 

Mae wedi rhyddhau pedwar albwm hyd yn hyn sef ‘Pawlie’ ym 1994, ‘The Small Time’ (1998), ‘Little Green Man’ (2011) ac ‘An Ape’s Progress’ (2021). Mae ei ddylanwadau’n cynnwys Todd Rundgren, Neil Finn, Joni Mitchell, The Fixx, Yes Genesis, Camel a mwy. 

Mae Pawlie hefyd wedi bod yn ysgrifennu colofn Gymraeg ar gyfer y gwasanaeth i ddysgwyr, Lingo360, ers y llynedd. 

Ar ôl rhyddhau ‘Americannwr Balch’  mae Pawlie yn bwriadu cyfansoddi rhagor o ganeuon yn y Gymraeg, ynghyd â ffilmio fideo ar gyfer y sengl yn yr haf. 

Bydd y sengl yn caei ei rhyddhau ar label Meatloaf Records ar 29 Mawrth.