Sesiwn fyw Dylan Ynys yn Llyfrgell Gen

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth wedi cyhoeddi fideo arbennig o Dylan Hughes o’r band Ynys yn perfformio’n fyw yng nghrombil adeilad y Llyfrgell.

Mae’r Llyfrgell yn gyfarwydd â llwyfannu artistiaid yn theatr pwrpasol y Drwm, ond mae’r fideo newydd ychydig yn wahanol gyda Dylan yn perfformio yn ‘stacks’ y Llyfrgell, lle mae rhai o’r casgliadau yn cael eu storio.

Cyhoeddwyd y fideo ohono’ canu’r gân ‘Does dim byd dyw’r môr ddim yn gwybod’ ar sianel YouTube y Llyfrgell ar Ddydd Miwsig Cymru, 9 Chwefror.