‘Siopa’ ydy enw’r trac diweddaraf i ollwng gan Ffos Goch, sef prosiect y cerddor profiadol Stuart Estell.
Mae Stuart wedi rhyddhau ‘Siopa’ fel teyrnged i’w ddiweddar ffrind, y bardd Brendan Higgins, neu “Big Bren”.
“Bren oedd un o feirdd mwyaf Birmingham, ymhob ystyr” meddai Stuart.
“Mynydd / arth o ddyn oedd e, a berfformiai ei farddoniaeth ragorol ar gyflymder o gan milltir yr awr. Roedd ei berfformiadau’n eithafol o gryf, doniol tu hwnt, gwrthwynebol.
“Bu farw Bren ym mis Ionawr. O’n ni eisoes wedi bod yn trafod sengl Nadoligaidd ar gyfer eleni. Mae’r ffolder o’i eiriau ar y llawr wrth ymyl fy nesg. Rwy’n gweld eisiau fe. Felly, dyma fy ymateb i’w gerdd fwyaf adnabyddus, ‘Shopping’.
“Rwy’n dychmygu Bren yn siopa yn y nefoedd, ac rwy wedi ceisio cyfleu rhywfaint o’i ysbryd gyda’r llais a’r gerddoriaeth, sy’n swno braidd fel ffeit rhwng Gary Numan a The Fall (ac efallai Add N to (X)).
“Dros y misoedd nesa, bydda i’n rhyddhau dwy gân arall sy’n seiliedig ar fersiynau Cymraeg o gwpl o’i gerddi. Bydd unrhyw elw yn mynd i’r elusen, Hoarding UK, gyda phwy roedd e’n arfer gweithio.”
Bydd y senglau ‘Myfïaeth’ yn dilyn ar y 24 Mai ac yna bydd ‘Mae Plentyn Wedi Marw’ yn cael ei ryddhau ar y 21 Mehefin ar label Recordiau Hwyrol.