Pa ffordd well i nodi Dydd Gŵyl Dewi na gyda sengl newydd Eden!
Rhyddhaodd y triawd poblogaidd eu trac diweddaraf, ac eu hail sengl o’r flwyddyn ar 1 Mawrth.
‘Siwgr’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh ac fe gafodd y fideo arbennig ar gyfer y trac ei ddarlledu am y tro cyntaf fel hysbyseb cyfan yn ystod rhaglen ‘Cân i Gymru’ ar S4C.
Mae’r sengl ddiweddaraf yn dilyn ‘Caredig’ a ryddhawyd ddechrau mis Chwefror. Cafodd y fideo ar gyfer hon ei wylio dros 40,000 o weithiau yn ystod 24 awr cyntaf ers ei rhyddhau. Yn dilyn y llwyddiant yma mae’r band nawr yn barod i ryddhau eu tiwn nesaf ar ffurf alaw bop felys wedi’i chyfansoddi gan Yws Gwynedd, Rich James Roberts ac Ifan Siôn Davies.
Mae Non, Emma a Rachel, sydd i gyd yn troi’n 50 eleni, yn falch i gael dymchwel stereoteipiau a gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl yn y sin gerddoriaeth Gymraeg.
Bu i’r fideo, sydd wedi ei gynhyrchu gan Lŵp, yn ymddangos yn ystod un egwyl o ‘Cân i Gymru’, ac yna fe’i rhyddhawyd yn swyddogol ar y llwyfannau digidol arferol ar ddiwedd y rhaglen. Dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad o’i fath gael ei wneud yn y sin Gymraeg ac mae’n cynrychioli dychweliad y band i ryddhau cerddoriaeth yn rheolaidd.
“’Da ni mor gyffrous i gael rhannu fideo i’n sengl newydd ni, ‘Siwgr’” meddai Non Parry o’r band.
“Mae platfform Lŵp yn un pwysig iawn o ran cefnogi a hyrwyddo cerddoriaeth o Gymru, ac wnaethon ni neidio ar y cyfle i gael gwneud fideo unwaith eto! Diolch yn fawr iawn iddyn nhw am eu cefnogaeth.”
Dywed aelod arall o Eden, Emma Walford, bod cyhoeddi’r fideo yn ystod Cân i Gymru yn ffordd berffaith o ddatgelu’r sengl i’r byd.
“Mae rhyddhau sengl wastad yn rywbeth cyffrous – a pa ffordd well i ddangos y fideo nag yn ystod egwyl Cân i Gymru, un o’n uchafbwyntiau cerddorol ni yma yng Nghymru!? Gobeithio neith y gynulleidfa fwynhau’r fideo a’r sengl” meddai Emma.
Er iddynt ffurfio dros 30 mlynedd yn ôl, maent wedi awgrymu mai 2024 fydd eu blwyddyn brysuraf hyd yma, gyda mwy o gerddoriaeth gyffrous i ddod.