Taith Carwyn Ellis

Mae Carwyn Ellis wedi cyhoeddi manylion ei daith unigol gyntaf ers bron i ddegawd.

Mae’r daith yn dod yn fuan ar ôl i’r cerddor amryddawn ryddhau ei albwm diweddaraf, ‘Ni a Nhw’, sy’n gasgliad o’i ganeuon Cymraeg gyda phrosiectau amrywiol dros y blynyddoedd.

Yn ôl Carwyn bydd yn perfformio llawer o’i ganeuon cyfarwydd ar y daith, ynghyd ag ambell drac newydd hefyd o bosib. Bydd y daith yn dechrau yng Nghaernarfon ar 13 Ebrill, ac yn cloi ym Mhenarth ar 27 Ebrill. 

Dyddiadau llawn taith Carwyn Ellis:

13 Ebrill – Galeri, Caernarfon

14 Ebrill – The Yard, Manceinion

19 Ebrill – Ty Tawe, Abertawe

20 Ebrill – Capel y Graig, Trelech

22 Ebrill – Bank Vault, Aberystwyth

25 Ebrill – Muse, Aberhonddu

27 Ebrill- Eglwys St Augustine,Penarth 

Mae modd archebu tocynnau ar gyfer gigs y daith nawr ar wefan Carwyn Ellis.