Taith HMS Morris ar fin dechrau

Mae HMS Morris yn paratoi i ddechrau eu taith Brydeinig ddiweddaraf ddechrau mis Mehefin. 

Mae’r band o Gaerdydd wedi sefydlu eu hunain fel un o grwpiau mwyaf cyffrous Cymru bellach, ac yn datblygu hefyd fel band sy’n teithio’r rheolaidd. 

Daw’r daith ddiweddaraf yn fuan ar ôl taith hydref llwyddiannus i hyrwyddo eu halbwm diweddaraf, ‘Dollar Lizard Money Zombie’. 

Bydd y daith nesaf yn agor gyda gig yn Dive Bar, Huddersfield, ar 4 Mehefin cyn symud ymlaen i Oporto yn Leeds y noson ganlynol ac yn Gullivers ym Manceinion. Bydd HMS Morris yn ymweld ag wyth lleoliad arall yng Nghymru a Lloegr ar ôl hynny gan orffen yn Y Plu, Llanystumdwy ar15 Mehefin. 

Cyn iddynt ddechrau ar y daith swyddogol roedd cyfle i’w gweld yn chwarae yng ngŵyl Twrw yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ddydd Sul diwethaf (26 Mai) a byddan nhw hefyd yn perfformio yn Triban, Eisteddfod yr Urdd Maldwyn wythnos yma. 

Mae modd archebu tocynnau ar gyfer y gigs ar wefan HMS Morris

Taith Mehefin HMS Morris

4 Mehefin – Dive Bar, Huddersfield

5 Mehefin – Oporto, Leeds

6 Mehefn – Gullivers, Manceinion

7 Mehefin – Ink, Bae Colwyn

8 Mehefin – Gŵyl Tawe, Abertawe

10 Mehefin – Purple Turtle, Reading

11 Mehefin – New Cross Inn, Llundain

12 Mehefin – Heartbreakers, Southampton

13 Mehefin – Le Pub, Casnewydd

14 Mehefin – Futureyeard, Birkinhead

15 Mehefin  Y Plu, Llanystundwy