Mae albwm diweddaraf The Gentle Good, Galargan, wedi’i gynnwys ar restr ‘10 albwm gwerin gorau 2023’ The Guardian.
Rhyddhawyd record hir ddiweddaraf prosiect y cerddor profiadol, Gareth Bonello, ar label Bubblewrap nôl ym mis Medi 2023.
Mae ‘Galargan’ yn gasgliad o hen ganeuon, wedi’u gosod a’u dehongli gan y cerddor pan oedd y byd dan glo, pan oedd pethau fel colled, anobaith ac ofn yn teimlo’n fwy real nag erioed.
Daw llawer o ganeuon yr albwm o gasgliadau ac ysgrifau Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae ‘Nid wyf yn llon’ yn un enghraifft – cân a ganwyd gan garcharor yng ngharchar Dolgellau.
Recordiwyd yr albwm gyda’r cynhyrchydd Frank Naughton yn Stiwdio Tŷ Drwg yn Grangetown gyda Sion Orgon o Digitalflesh Mastering yn gyfrifol am y mastro. Mae gitâr a llais i gyd ar yr albwm gan Gareth Bonello.
Ers rhyddhau’r casgliad, mae ‘Galargan’ wedi cael tipyn o sylw gan y cyfryngau cerddoriaeth gan gynnwys adolygiad pump seren gan The Guardian. Efallai nad yw’n syndod mawr felly gweld y record yn cyrraedd y rhestr albyms gorau’r flwyddyn sydd wedi’i lunio gan Jude Rogers.
Mae Rogers wedi gosod yr albwm yn rhif 5 ar ei rhestr gan ddweud:
“Taking folk songs from the National Library of Wales, Gareth Bonello’s genius is to create a deceptively simple soundworld spanning various shades of the blues. He gives these Welsh-language songs Sandy Denny-like moods of dimly lit, humane clarity: dressing them gently with beautiful arrangements on the guitar, piano and cello, his singing voice is precise yet gentle. This album lands like an evergreen classic.”
Mae Galargan hefyd wedi ei gynnwys ar restr 50 albwm gorau gwefan gerddoriaeth amlwg God is The TV
Dolen i erthygl 10 albwm gwerin gorau 2023’ The Guardian: