Tokomololo yn rhyddhau ‘Seibiant’

‘Seibiant’ ydy sengl ddiweddaraf yr electronig newydd, Tokomololo, sydd allan ar label HOSC. 

Ymddangosodd Tokomololo allan o nunlle flwyddyn ddiwethaf’ gyda’r sengl, ‘Gafael yn Sownd’ a ryddhawyd ym mis Tachwedd. 

Yn plethu ei edmygedd tuag at waith cynhyrchwyr fel Ifan Dafydd a James Blake, mae caneuon Tokomololo yn greawdau sonig sy’n cymryd dyddiau i grefftio, yn cynnwys melodïau syml ac effeithiol ar ffurf llais y creawdwr, Meilir Tee Evans.

Wedi iddo fod yng Nghaerdydd yn y coleg yn astudio, treuliodd Meilir, sy’n enedigol o Ynys Môn, flynyddoedd yn byw yn Llundain cyn penderfynu dychwelyd i Gymru wedi cymhlethdodau’r cyfnodau clo. 

Gyda thraciau eraill sydd eisoes wedi eu gorffen, bydd mwy o senglau ac albwm gan Tokomololo yn siŵr o gyrraedd cyn diwedd y flwyddyn.