Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Ble?, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf.
‘Triban’ ydy enw’r trac newydd gan y grŵp addawol ac mae allan ar label annibynnol y band, sef Label Recordio Amhenodol.
Mae’r sengl newydd yn ddilyniant i’r traciau ‘Epiphany’ a ‘Rhedeg’ a ryddhawyd fel senglau ganddynt yn ystod 2023, gan greu dipyn o sylw o amryw gyfeiriad.
Yn ôl Ble?, ‘Triban’ ydy’r gyntaf mewn mewn bloc o ryddhau cerddoriaeth newydd ganddynt dros gyfnod haf 2024.
Mae ‘Triban’, Mewn Partneriaeth gydag Eisteddfod yr Urdd ag Urdd Gobaith Cymru, yn gân sy’n dathlu’r celfyddydau a digwyddiadau byw sy’n rhoi platfform i artistiaid creadigol yng Nghymru, ac yn benodol felly drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi’n gân egnïol, sy’n nodweddiadol o natur sain ‘brass-rock’ y band, sy’n sôn am wyliau cerddorol a’r teimlad da sy’n dod gyda’r haf.
Mae ‘Triban’ yn anthem ar gyfer Gŵyl Gerddoriaeth a Chelfyddydol Gŵyl Triban’ Eisteddfod yr y Urdd.
Fe ddaeth y gân yn wreiddiol fel her yn ystod blwyddyn gyntaf gŵyl Triban, sef i ysgrifennu cân am yr ŵyl gan ddefnyddio sain offerynnau o berfformiadau byw yr ŵyl i greu’r trac. Wedi cael cyfle i ddatblygu’r gân ymhellach mae ‘Ble?’ yn cyflwyno tensiwn a grym o fewn offerynnieth y gân gyda thrwmped a sacsaffôn y band yn benodol.
Cafodd Ble? gyfle i chwarae’r gân ar brif lwyfan yr ŵyl fel rhan o ‘Wyl Triban” Eisteddfod Yr Urdd yn Llanymddyfri llynedd, ac mae’r band yn edrych ymlaen i’w chwarae eto eleni fel rhan o’r ŵyl.
Mae Ble? yn fand Brass-Rock o dde Cymru a ffurfiodd yn wreiddiol fel rhan o brosiect ‘Yn Cyflwyno’ Gŵyl Tafwyl 2022 ac ers hynny wedi bod yn creu tipyn o enw iddyn nhw eu hunain yn enwedig yn y sin gerddoriaeth Gymraeg yng Nghaerdydd.
Wedi’u dylanwadu gan Frizbee, Band Pres Llareggub, Fountains of Wayne a McFly mae eu perfformiadau yn cynnig alawon egnïol a thrawiadol ar y trwmped a’r sacsoffon a theimlad grymus ac angerddol. Maen nhw wedi chwarae mewn nifer o wyliau cerddorol Cymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac ar fin rhyddhau cryn dipyn o’u traciau yn y flwyddyn nesaf.