Welsh Whisperer yn traethu am y trethu

Mae’r canwr comig poblogaidd, Welsh Whisperer, wedi bod  yn ôl yn y stiwdio, ac yn barod i ryddhau’r gyntaf  gyfres o senglau newydd. 

‘HMRC, Gad Lonydd i Mi’, ydy enw’r trac diweddaraf ganddo fydd allan ar ddydd Gwener 26 Ionawr ar Recordiau Hambon. 

“Daeth y syniad i ‘HMRC, Gad Lonydd i Mi’, nid yn unig ar ôl derbyn bil treth swmpus ond hefyd am y ffaith bod pawb yn talu er bod cyn lleied yn cael ei wario ar y wlad”, meddai’r diddanwr o Sir Gâr. 

Mae’r sengl hefyd yn cael ei rhyddhau yn Saesneg ochr yn ochr â’r fersiwn Gymraeg ac fe fydd yn siŵr o greu argraff yn yr Iwerddon, fel mae nifer o ganeuon Welsh Whisperer wedi llwyddo i wneud. 

Bydd y Welsh Whisperer yn teithio gyda’r band llawn unwaith eto yn 2024 ac yn edrych ymlaen at berfformio caneuon hen a newydd ar draws y wlad meddai.