Y gyntaf o nifer o senglau M-Digidol

Mae’r label recordiau newydd, HOSC, wedi datgelu bod eu hartist electronig, M-Digidol wedi dechrau ar ei daith tuag at ryddhau albwm cyntaf. 

Dechrau’r daith honno ydy rhyddhau’r sengl ‘Gweld’ sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 8 Mawrth. 

Ond, dim ond y sengl gyntaf o nifer ydy hon gan fod yr artist am ryddhau trac newydd bob wythnos rhwng hyn a dyddiad rhyddhau’r albwm llawn ddechrau mis Ebrill.  

‘Swrealaeth’ ydy enw’r albwm hwnnw. 

Daeth M-Digidol i sylw wrth iddo ryddhau ei sengl gyntaf, ‘Un, Dau, Tri, Pedwar’, ym mis Medi llynedd. Prosiect cerddorol Rhun Gwilym ydy M-Digidol, ac mae wedi bod yn gweithio tuag at gorff o waith sy’n adlewyrchu ei gariad at gerddoriaeth gyfoes a’i wreiddiau mewn drum & bass.

Ers rhyddhau’r sengl gyntaf yna, mae hefyd wedi rhyddhau’r trac ‘Catdisco Remix’ sef ei fersiwn wedi’i ail-gymysgu o’r gân wreiddiol gan Crash.Disco!

Mae HOSC yn annog pawb i ymuno â M-Digidol ar ei daith unigryw drwy glitch, electronica a breakbeat dros yr wythnosau nesaf.