Y Nos – prosiect ‘synthwave’ gan fand graffeg

Mae albwm cyntaf prosiect newydd Y Nos yn gyfuniad o gerddoriaeth synthwave sy’n cael ei gyflwyno mewn dull gweledol reit unigryw i’r sin gerddoriaeth Gymraeg. 

Neon yn y Nen ydy enw’r record hir gyntaf gan Y Nos, sef prosiect unigol y cerddor Aled Mills. 

Wedi’i recordio dros gyfnod o ddeunaw mis, mae’r albwm yn trafod amryw o themâu drwy brism synthwave electronig.

Bam Bam Meredydd

Bu Aled wedi bod yn perfformio mewn  bandiau amrywiol ers blynyddoedd, ond dywed ei fod wastad hefyd wedi bod yn cyfansoddi a chynhyrchu yn ei amser sbâr. 

Mae’r bandiau y bu Aled ynddyn nhw yn y gorffennol wastad wedi bod yn fandiau gitar/indie, ond mae sain ei brosiect unigol yn reit wahanol yn ôl y cerddor. 

“Baswn i’n dweud bod yr EP yma’n lot fwy electronig ei naws” eglura Aled wrth Y Selar

“…sŵn fwy ‘synthwave’/’synthpop’, wedi cael ei ddylanwadu gan bandiau fel The Midnight, Kavinsky, Depeche Mode, Daft Punk a Billie Eilish.”

“Dwi’n gobeithio bod y gerddoriaeth yn sefyll ar draed ei hun, ond elfen o’r genre ‘Synthwave’ sy’n apelio ata i yw’r delweddau gweledol cryf sy’n tueddu cyd-fynd ag e, felly ar gyfer hyrwyddo ac yn y blaen dwi wedi creu gwaith celf dwi’n gobeithio sy’n dal sylw.

“Baswn i’n dweud bod yr EP yma’n lot fwy electronig ei naws” ychwanega Aled. 

“…sŵn fwy ‘synthwave’/’synthpop’, wedi cael ei ddylanwadu gan bandiau fel The Midnight, Kavinsky, Depeche Mode, Daft Punk a Billie Eilish.”

Grŵp ‘graffeg’

Yn ogystal â chyflwyno sain sy’n weddol anghyffredin yn y Gymraeg ar hyn o bryd, mae Aled yn anelu i gyflwyno band sy’n reit unigryw i’r sin Gymraeg hefyd.

Efallai bod y syniad o ‘fand rhithiol’ wedi dod yn fwyfwy cyffredin ers i Damon Albarn a’r artist Jamie Hewlett ddod a’r Gorillaz yn fyw ar ddiwedd y 90au, yn rhyngwladol o leiaf, ond mae’n dal i fod yn gysyniad gweddol unigryw yn y Gymraeg. Byddai darllenwyr hŷn yn cofio’r band Hanner Dwsin o’r cartŵn S4C yn yr 80au, ond mae’n anodd meddwl am lawer o esiamplau eraill yn y Gymraeg.

Mae Y Nos yn anelu i gyflwyno rhywbeth go wahanol i’r gynulleidfa felly, fel yr eglura Aled…

“Dwi’n gobeithio bod y gerddoriaeth yn sefyll ar draed ei hun, ond elfen o’r genre ‘Synthwave’ sy’n apelio ata i yw’r delweddau gweledol cryf sy’n tueddu cyd-fynd ag e, felly ar gyfer hyrwyddo ac yn y blaen dwi wedi creu gwaith celf dwi’n gobeithio sy’n dal sylw.”

“Fel rhan o hynny dwi wedi creu 5 cymeriad fydd yn ’wynebau’r’ band – Tomi Helsinki (gitâr rhythm a chanu), Lleux (bas), Andre ap Glyn (prif gitâr), Amiga Jones (synths a canu) a Bam Bam Meredydd (dryms)! 

“Dwi’n gobeithio bydd y cyfuniad yma o’r gerddoriaeth a’r graffeg nodweddiadol yn sefyll allan wrth i bobl sgrolio trwy eu cyfryngau cymdeithasol!”

Cysyniad gweledol diddorol felly, ac eitha’ unigryw yn y Gymraeg.  

Naws nostalgic

Naws synthaidd, nostalgic yn perthyn i’r albwm yn ôl Aled gyda llawer o’r traciau’n rai y gallech chi ddisgwyl eu clywed mewn ffilmiau o’r 1980au. Mae ‘na elfennau pop bachog hefyd ynghyd ag ambell drac dawns. Mae themâu geiriau’r casgliad yn deillio o brofiadau personol, a rhai yn ryw fath o sylwebaeth ar y byd ry’n ni’n byw ynddi ar hyn o byd. 

Intro ydy’r trac ‘Machlyd’ sy’n gosod awyrgylch ar gyfer gweddill y record, tra bod y teitl drac, ‘Neon yn y Nen’ yn adlewyrchu ar y modd mae cerddoriaeth synthwave yn gwneud i Aled deimlo.

“….y cyfuniad od o’r llon a’r lleddf a’r ffordd ei fod yn gwneud i mi hiraethu am rhywbeth nes i fyth profi yy lle cynta” meddai.

“Mae ‘Troi’ yn gân am wynebu talcen caled, ond yn gân bositif yy pendraw am beidio roi’r ffidil yy to ac i wynebu pethau’n uniongyrchol. ‘Ailddechrau o Ddim’ wedyn – cân am be dwi’n meddwl o’r hinsawdd wleidyddol ar hyn o bryd!”

Mae un trac cyfarwydd iawn ar yr albwm sef ‘Enfys Bell’ – fersiwn o gân y band Vanta, sydd yn rhannu naws nostalgic yr albwm yn ôl y cerddor. 

Cân arall sy’n rhannu naws nostalgic yr albwm ydy ‘Femme Fatale’, sydd fel mae’r gytgan yn awgrymu, yn olygfa allech ddychmygu gweld mewn ffilm noir o’r 80au, tra bod ‘Lladd y Blaidd’ yn gân am iselder a gorbryder.

Mae ‘Achub y Byd’ wedyn yn ategu cysyniad y prosiect ac yn adrodd y stori ffuglennol o sut gafodd Andre ap Glyn ei rectriwtio i fand ‘Y Nos‘.

Gwaith celf trac ‘Neon yn y Nen’

Mae themau amrywiol i’r caneuon sy’n dilym hefyd nes cyrraedd y trac olaf, ‘Talu’r Dyn’ sy’n gân am wynebu colled sy’n benthyg rhai geiriau o waith bardd Saesneg enwog fel yr eglura Aled.

“Mae cwpled gynta’r gytgan wedi’i addasu o farddoniaeth gothig Edgar Allan Poe – gobeithio byddai dim ots ganddo!”

Yn ogystal â chreu’r darluniau o aelodau’r band, mae Aled hefyd wedi creu gwaith celf ar gyfer y traciau unigol a does dim amheuaeth fod hwn yn brosiect uchelgeisiol.

Ac os nad ydy hynny’n ddigon, mae hefyd fideo ar gyfer y gân ‘Troi’ yn cael ei gyhoeddi i gyd-fynd â’r albwm.

Bydd cyfle cyntaf ecsgliwsif i chi weld y fideo yma ar wefan Y Selar ddydd Mercher nesaf, 24 Ebrill – cadwch olwg ar ein cyfryngau cymdeithasol!

Am y tro, dyma deitl drac yr albwm i gynnig blas i chi.