Mae’r band o Ddyffryn Conwy, Yr Anghysur, wedi cyhoeddi manylion eu halbwm newydd.
‘Er Gwaetha’ Pob Dim’ fydd enw’r record hir fydd yn cael ei rhyddhau ar 25 Ebrill.
Yn ôl y band bydd yr yr albwm yn arddangos cyfuniad unigryw’r band o indie atmosfferig, alt-roc, a geiriau emosiynol, gan gyflwyno profiad gwrando pwerus i gefnogwyr hen a
newydd.
Yn dilyn rhywfaint o llwyddiant gyda chyfres o senglau cyn hyn, mae Yr Anghysur wedi creu albwm sy’n arbrofi gyda sain, trefniannau, a themâu newydd wrth aros yn driw i’w gwreiddiau Cymreig.
“Roedden ni eisiau creu rhywbeth y gall y gwrandawyr uniaethu hefo —rhywbeth sy’n mynd â gwrandawyr drwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd, wedi’u lapio mewn alawon a rhythmau sy’n adleisio’r emosiynau,” meddai Hedd Fôn, prif lleisydd y band.
Mae’r albwm yn cynnwys naw o draciau, gan gynnwys y prif drac teitl ‘Er Gwaetha’ Pob Dim’. Er gwaethaf caledi bywyd, mae’r gân yn pwysleisio dyfalbarhad a dal gafael ar obaith.
Recordiwyd yr albwm yn Tape Cerdd a Film Cymunedol yn Hen Golwyn gyda help Aled Wyn Clark a Ger “Ninja” Jones.
Yn ogystal â rhyddhau’r albwm, bydd y band yn chwarae nifer o gigs o amgylch Gogledd Cymru dros y misoedd nesaf, gan gynnwys parti lansio’r albwm ar 4 Mai yng Ngwesty Yr Eagles yn Llanrwst.
Band roc Cymraeg a ffurfiwyd yn 2022 gan y brodyr Hedd ac Aran Fôn ydy Yr Anghysur. Aelodau eraill y band ydy Sam Roberts a Mark Kendall, cyn-ddrymiwr y band enwog o Ddyffryn Conwy, Y Cyrff. Yn ddiweddar, ymunodd Osian Glyn fel pumed aelod.
Dechreuodd y band eu gyrfa drwy gefnogi Dafydd Iwan yng ngŵyl Llanast Llanrwst, ac ers hynny maent wedi perfformio’n rheolaidd mewn gwyliau a lleoliadau lleol, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, Rhudd Fest a llawer mwy.
Cyn hyn maent wedi rhyddhau tair sengl sef ‘Byd ar Ben i Lawr’, ‘Cofia I’ a ‘Milltir Sgwâr’. Maent hefyd wedi rhyddhau un trac Saesneg sef ‘Keep Me a Seat in Paradise’, a bydd fersiwn Gymraeg o’r trac hwn ar yr albwm newydd. Yn wir, bydd fersiynau newydd o’r holl senglau hyd yma ar yr albwm.
Bydd ‘Er Gwaetha’ Pob Dim’ ar yr holl lwyfannau digidol arferol, yn ogystal ag mewn fformatau caled trwy wefan swyddogol y band.