‘Acwariwm’ ydy enw sengl ddiweddaraf Ani Glass, wrth iddi baratoi i ryddhau ei halbwm newydd ddiwedd mis Medi.
‘Acwariwm’ ydy enw’r sengl newydd, sy’n drac pop bachog arall, gyda bît cryf a synths sgleiniog.
Yn ôl Ani, mae’r trac newydd yn ymwneud ag “ailgysylltu â’r byd o’ch cwmpas, ac atgoffa’ch hunain i ddal ati i chwilio am obaith ym mhob cornel, hyd yn oed pan fo pethau’n edrych yn dywyll.”
‘Acwariwm’ ydy’r blas diweddaraf o albwm newydd Ani Glass – bydd ‘Phantasmagoria’ yn cael ei ryddhau ar 26 Medi, sydd hefyd yn Ddiwrnod Rhyngwladol Ieithoedd, sy’n berthnasol iawn gan fod sawl iaith i’w clywed ar yr albwm.
Mae’r albwm newydd yn ddilyniant i record hir gyntaf Ani Glass, sef Mirores, a ryddhawyd ar ddechrau 2020, jyst cyn y cyfnod clo.
Yn fuan ar ôl rhyddhau ‘Mirores’ cafodd yr artist o Gaerdydd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd anfalaen prin. Roedd y diagnosis yn ddechrau ar daith bersonol i Ani sydd wedi siapio ei halbwm newydd, albwm cysyniadol mewnsyllgar sy’n plymio’n ddwfn i’w phrofiad o ffeindio ei ffordd trwy fywyd gyda’r diagnosis.
Mae’r albwm yn un aml-ieithog ac yn cynnwys geiriau yn y Gymraeg, yn y Gernyweg ac mewn Saesneg. Mae Ani hefyd yn plethu ychydig o BSL (iaith arwyddo) i’w pherfformiadau byw.
Mae ‘Phantasmagoria’ yn tynnu ynghyd yr ieithoedd a chyfryngau amrywiol sydd gan Ani at ei defnydd er mwyn adlewyrchu cyfnod arwyddocaol yn ei bywyd.
I gyd-fynd â rhyddhau’r albwm, mae Ani wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs hyrwyddo ledled Cymru, ynghyd ag un gig yn Llundain.
Dyddiadau gigs Ani Glass:
26 Medi – The Canopi, Cardiff
28 Medi – The Social, London
03 Hydref – Cwrw, Carmarthen
10 Hydref – Cŵps, Aberystwyth
24 Hydref – Tŷ Pawb, Wrexham
07 Tachwedd – Tŷ Tawe, Swansea