Mae’r band o ardal Aberystwyth, Bwca, wedi rhyddhau eu EP newydd.
‘Pumlumon’ ydy enw’r record fer gysyniadol sydd allan nawr ar label Recordiau Hambon.
Yn y bôn, ystyr yr enw ‘Pumlumon’ – mynydd uchaf Ceredigion lle mae dau aelod o’r band yn byw – yw mynydd gyda phum copa ac mae Bwca wedi dwyn ysbrydoliaeth o’r enw i greu casgliad arbennig pump cân.
Dyma gasgliad byr sy’n dathlu prydferthwch a threftadaeth Pumlumon ac ardal Yr Elenydd yn ehangach tra hefyd yn cyfleu pa mor frau yw’r prydferthwch hwn.
O ganu am natur, lleoliadau, golygfeydd a hanes yr ardal i ganu am yr heriau go iawn hynny fel colli enwau lleoedd, plannu coedwigoedd a sefydlu ardaloedd tanio dyma gasgliad cysyniadol a chlyfar llawn caneuon hynod fachog lle mae Bwca unwaith eto yn cyfleu bywyd yn y gorllewin yn 2025.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Bwca wedi ennill nifer o ddilynwyr mewn gigs ar draws y wlad gyda’u repertoire sydd yn llawn amrywiaeth a dyma a geir yma yn y casgliad newydd.
Mae’r EP yn dechrau a gorffen gyda dwy gân roc ysgafn prydferth fyddai mor hawdd i’w chwarae ar y radio sef ‘Pumlumon’ ac ‘Elenydd’. Fel gwrthbwynt llwyr mae’r canol yn cynnwys y caneuon protest amserol ‘Llynnoedd Coed’ (gyda Rhiannon O’Connor) a ‘Draw Dros y Mynydd’ a gafodd eu rhyddhau fel senglau yn gynharach eleni.
Yr un gân sy’n weddill ‘Cnoc Cnoc y Cnocwyr’ sy’n rhoi’r ystyr i’r dyddiad rhyddhau gan mai cân yw hon sydd wedi ei seilio stori T Llew Jones o bentref mwyngloddio Cwmsymlog ger Aberystwyth. Dyma gân acwstig sydd yn cyfuno elfennau gwerinol a seicedelig gyda’i linell fas o roc y 70au a’r sacsoffonau sy’n efelychu band martsio o gynefin bwcaod de Cymru.
Recordiwyd y casgliad yn stiwdio’r Americanwr Mike West yn Y Borth gyda phedwar aelod Bwca: Steff Rees (llais, gitâr a sacs); Iwan Hughes (dryms a llais cefndir); Hannah McCarthy (sacs a llais cefndir) a Pete Evans (bas a llais cefndir). Mae’r casgliad hefyd yn gweld rhai o ffrindiau’r band yn cyfrannu sef Alex Stoll (allweddellau), Luis Sanchez (gitâr flaen trac 1) ac Einion Gruffudd (sacs alto trac 2).
Ysgrifennwyd y caneuon naill ai gan Steff Rees (traciau 2 a 4) neu ar y cyd gyda dau o drigolion Yr Elenydd sef y crefftwr geiriau o Dalybont Phil Davies (traciau 1 a 5) a’r gantores gyfansoddwraig o Ffarmers Rhiannon O’Connor (trac 3). Artist y clawr yw Gwenno Llwyd Jones (Creu Co.)
Sefydlwyd Bwca yn 2017 ac ers hynny maent wedi rhyddhau dau albwm sef ‘Bwca’ yn 2019 a ‘Hafod’ yn 2023. Mae’r band wedi chwarae Sesiwn Fawr Dolgellau, Tafwyl, Llwyfan y Maes a Gigs Cymdeithas yn ogystal â gigs ledled Cymru o Ben Llŷn i Sir Fynwy, Rhuthun i’r Gorllewin ac ar draws y De.
Dyma’r teitl drac: