Cyfle cyntaf i weld…fideo ‘Digwydd Cwrdd’ gan Mei Emrys

Ddiwedd mis Medi fe wnaeth Mei Emrys ryddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Digwydd Cwrdd’.

Mae dylanwadau eang ar y sengl sy’n amrywio o Coldplay a John Mayer i fandiau roc llai enwog o droad y mileniwm, megis Semisonic a Jet.

Ceir geiriau myfyriol ar y trac sy’n edrych yn ôl ar dorcalon o’r gorffennol pell ac yn ystyried goblygiadau posibl hen lwybrau’n croesi.

Wrth ryddhau ‘Digwydd Cwrdd’ roedd addewid o fideo i gyd-fynd â’r sengl, ac mae’r Selar yn falch iawn o gael y cyfle ecsgliwsif i rannu’r fideo hwnnw gyda chi!

Cyn-gitarydd y band Gwilym, Rhys Grail – sydd bellach yn rhyddhau cerddoriaeth o dan yr enw SHINOBii – sydd wedi creu’r fideo ac fe’i ffilmiwyd yn Neuadd Mynytho ym Mhen Llŷn, ac ar lannau’r Foryd, ger Caernarfon.

Heb oedi ymhellach felly, dyma fideo ‘Digwyd Cwrdd’:

 

Gadael Ymateb