Cyfres o fideos cerddoriaeth newydd S4C Miwsig

Mae S4C wedi lansio cyfres newydd o fideos cerddoriaeth fydd yn cael eu cyhoeddi ar eu llwyfannau digidol dros yr haf. 

Bydd deg o fideos cerddoriaeth newydd sbon yn cael eu dangos ar lwyfannau digidol S4C Miwsig rhwng 2 Gorffennaf a 3 Medi.

Mae’r prosiect yn codi o gais gan y sianel deledu ddiwedd 2025 am bobl o bob cefndir, diddordeb a genres i gyfarwyddo ar gyfer S4C Miwsig. 

Bydd y fideos yn cael eu cyhoeddi bob dydd Iau am ddeufis, a’r cyntaf i ollwng ddydd Iau diwethaf, 2 Gorffennaf oedd fideo ar gyfer y trac  ‘Gweld yn Glir’ gan Cordia. Hedydd Ioan sy’n gyfrifol am gyfarwyddo’r fideo. 

Wythnos yma, ar ddydd Iau 9 Gorffennaf bydd y fideo nesaf yn cael ei gyhoeddi sef ‘Sbia ar y Byd’ gan Crwban sydd wedi’i gyfarwyddo gan Lewys Mann. 

Bydd fideos pellach yn dilyn ar gyfer traciau gan TewTewTennau, Alis Glyn, Achlysurol, Moddion, Kizzy Crawford, Ffenest, Tokomololo a Gwen. 

 

Rhestr lawn y fideos yn y gyfres:  

2 Gorffennaf: Gweld yn Glir – Cordia (Hedydd Ioan)

9 Gorffennaf: Crwban – Sbia ar y Byd (Lewys Mann)

 16 Gorffennaf: Tew Tew Tenau – Ma ’na Lais (Eleri Parry)

23 Gorffennaf: Alis Glyn- Llinyn Arian (Sam James)

30 Gorffennaf: Achlysurol – Pan Mae’r Haul yn Machlud (Owain Jones)

6 Awst: Moddion – Gwaith Trwsio (Branwen Jones)

13 Awst: Kizzy – Tudalen Wag (Lleucu Jenkins)

20 Awst: Ffenest – Emynau (Llyr Evans)

27 Awst: Tokomolo Youngr – Siliwet (Jamie Walker)

3 Medi: Gwen – Tina ar y Crusher (Brychan England)

Dyma fideo Cordia: