Fideo ‘Hen Dro’ gan Bitw

Mae Bitw, sef prosiect unigol y cerddor amryddawn Gruff ab Arwel, wedi cyhoeddi fideo ar gyfer eiu sengl ddiweddaraf, ‘Hen Dro’.

Mae ‘Hen Dro’ allan ers 25 Medi a dyma’r ail sengl i’w ryddhau fel tamaid i aros pryd nes ei albwm newydd, ‘Gaddo Glaw’, a fydd yn dilyn ar 30 Hydref.

Mae’r sengl yn ei weld yn cyd-weithio unwaith eto gyda Chwaer Fawr, sef Mari Morgan, sy’n cyfrannu ei llais at y trac.

Rhyddhawyd ail drac ar y cyd sef ‘Cofio Bob Tro’ sydd unwaith eto’n cynnwys llais Mari, ynghyd â Gwion Llewelyn ar y drymiau a Stephen Black ar y sax. 

Gadael Ymateb