Galwad am ffilmiau byr cerddorol 

Bydd yr ŵyl ffilmiau ddigidol, AmCam, yn dychwelyd ym mis Chwefror 2027 ac mae’r trefnwyr yn galw am gynigion gan gyfarwyddwyr sydd am greu ffilmiau dogfen cerddorol. 

Bydd rhifyn gerddorol arbennig o ŵyl AmCam yn cael ei gynnal ar 5 Chwefror fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru. 

Fel rhan o’r ŵyl, mae Am, cwmni hyrwyddo PYST ac Adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru yn partneru i gynnig £500 yr un tuag at greu pedwar o ffilmiau dogfen fer am gerddoriaeth iaith Gymraeg ar lefel cymunedol. 

Daw hyn yn dilyn pedwar rownd flaenorol o’r ŵyl ffilmiau digidol sydd wedi comisiynu un ar bymtheg o ffilmiau cymunedol hyd yma. 

Mae modd gwylio’r holl ffilmiau hyn ar wefan Am, ac maent yn cynnwys y ffilmiau a gyhoeddwyd adeg Dydd Miwsig Cymru llynedd, sef ‘Swn Mach’ gan Lowri Page, ‘AD-DREFNU’ gan Lleucu Elisa Jenkins, ‘Croeso y Diwylliant Vol.1’ gan fruitb0y a ‘Garlleg’ gan Kieron Shand. 

“Mae Am yn falch iawn o gael partneru unwaith eto gyda Dydd Miwsig Cymru ar rifyn arbennig o AmCam” meddai Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST Cyf. 

“Mae gweithgaredd llawr gwlad yn gwbl hanfodol i’r diwydiant gerddorol ehangach, ac rydym yn gobeithio bydd hwn yn gyfle gwych i ddogfennu, a dathlu’r holl gerddoriaeth iaith Gymraeg arbennig sydd yn cael ei ryddhau o ganlyniad i’r holl weithgaredd hwnnw.”

Mae’r ceisiadau ar gyfer y comisiynau ar agor nawr, gyda dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ar 28 Hydref. Mae’r canllawiau llawn ar wefan Am. 

Bydd y ffilmiau a gomisynir yn cael eu darlledu ar wefan Am ar Ddydd Miwsig Cymru 2027, sef 5 Chwefror. 

Dyma’r ffilm ‘AD-DREFNU’ gan Lleucu Elisa:

Gadael Ymateb