Mae’r cynhyrchydd elecronig Crwban wedi rhyddhau’r ddiweddaraf o’i gyfres o ganeuon newydd yn 2026.
Enw’r sengl ddiweddaraf ydy ‘Sbia ar y Byd’ ac mae allan ers dydd Gwener 31 Gorffennaf ar label H O S C.
Daw’r trac ochr yn ochr â fideo newydd sbon wedi’i greu mewn cydweithrediad â S4C Miwsig, gan ychwanegu elfen weledol at y prosiect ac amlygu presenoldeb cynyddol Crwban ar draws llwyfannau cerddoriaeth gyfoes Cymru.
Yn dilyn ‘Dawnsio Mwy’, trac a adeiladwyd o eiriau a llais eiconig Eleri Llwyd o’i chlasur 1976 ‘Dawns’ – mae ‘Sbia ar y Byd’ yn parhau i siapio hunaniaeth gerddorol Crwban o fewn tirwedd electronig Cymru.
Mae popeth sydd wedi’i ryddhau gan Crwban eleni wedi ehangu’r byd mae’n ei greu, gan dynnu sylw at ei reddf i ail–ystyried syniadau cyfarwydd mewn cyd-destunau newydd a modern.
Mae fideo ar gyfer y trac wedi’i gyhoeddi ar lawyfannau digidol S4C Miwsig: