Sengl ddwbl newydd Bitw

Mae Bitw, sef prosiect unigol y cerddor Gruff ab Arwel, wedi rhyddhau ei sengl ddwbl newydd, sef ‘Hen Dro’ a ‘Cofio Bob Tro’. 

Deuawd yw’r trac diweddaraf gan Bitw, wrth i Gruff ildio pennill neu ddau i’r amryddawn Chwaer Fawr (Mari Morgan) ar ‘Hen Dro’.

Arbrawf mewn diffyg chwaeth yw’r ail drac, ‘Cofio Bob Tro’, gyda Gruff yn rhestru os nad pob tro yna’n sicr sawl un. Daw Mari i’r adwy eto i godi’r canu, y tro yma gyda Gwion Llewelyn, sydd hefyd yn ei thanio hi ar y tabyrddau, Alex Morrison lawr yn y gwaelodion, Stephen Black yn sacsoffonio, a Llŷr Pari ar y botwm coch.

Bitw yw prosiect solo Gruff ab Arwel. Ag yntau bellach yng nghanol ei dridegau, byddai’n deg ichi ddweud ei bod yn hen bryd iddo roi’r gorau iddi, ac mi fysa Gruff ei hun yn cytuno efo chi. Ond haws dweud na gwneud, felly tan ei fod yn meddwl am rywbeth gwell i wneud yn lle, dyma sut y bydd hi beryg.

Mae ei albwm diweddaraf, ‘Gaddo Glaw’ allan ar 30 Hydref ac yn un o’r albyms rhataf i gael eu creu yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, gyda Gruff yn mynd ati’n ddiwyd i arbed pob ceiniog a thorri pob cornel wrth greu ei gyfanwaith mwyaf llwm hyd yma. 

Mae hi’n gaddo glaw trwm iawn ym marn Gruff, rhy drwm i unrhyw ymbarél neu gân bop allu gwneud fawr ddim amdano. Meddyliwch am beth bynnag ydi’r gwrthwyneb i ’daw eto haul ar fryn’ ac mi fyddwch chi’n weddol agos ati. Ac os oes ’na lygedyn o obaith, fydd hi ddim yn hir tan ddaw rhywun heibio i roi ei fys ynddo. (Wedi dweud hynny, ma’ nhw gyd yn ganeuon reit neis hefyd, yn enwedig os nad ydych chi’n un am dalu gormod o sylw i’r geiriau.)

Dyma fideo ‘Hen Dro’:

 

Gadael Ymateb