Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs yn yr hydref i hyrwyddo eu halbwm newydd.
‘Haul Bach’ ydy enw chweched albwm y band ac maent yn gwyro fwy nag erioed i’r canu gwlad sydd wedi bod yn rhan o’u sŵn ers y cychwyn cyntaf.
Ysgrifennwyd y casgliad hwn tra bu Iwan yn gwella yn sgil strôc a gafodd ar lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2024.
Bu’n ysgrifennu’n gyson trwy gydol y cyfnod anodd hwn, a bu’n rhan fawr o’i ymdrechion i wneud synnwyr o’r digwyddiad. Er hyn, nid record drom na lleddf mo hon; dyma ddathliad o fywyd a chariad, ac i dderbyn y da â’r drwg fel ei gilydd.
Hyd y gwyddai’r band, dyma’r unig record canu gwlad Gymraeg ei hiaith am gael strôc, neu unrhyw argyfwng meddygol mae’n debyg. Mae Iwan yn gwneud yn dda, diolch i chi, ac yn gwylio defaid o ffenestr gefn y tŷ.
Ar y daith hon, bydd Iwan yn perfformio ar ei ben ei hun mewn lleoliadau llai, agos-atoch gyda dwy set bob noson yn tynnu o ‘Haul Bach’ yn ogystal â chatalog helaeth y band.
Bydd dau o’r gigs reit ar ddiwedd mis Hydref yng Nghaerdydd ac Abertawe, gyda thri arall i ddilyn fis Tachwedd yn Nant Gwrtheyrn, Rhuthun a Llanidloes.
Dyma’r daith ddiweddaraf fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng PYST, Mentrau Iaith Cymru a chynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru; prosiect sydd eisoes wedi gweld teithiau llwyddiannus gan HMS Morris, The Gentle Good, Gwilym Bowen Rhys, a Lleuwen Steffan.
“Mae’n bleser cyhoeddi’r daith ddiweddaraf yn ein partneriaeth gyda Noson Allan a Mentrau Iaith Cymru” meddai Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST.
“Ein nod gyda phob taith yw ymweld â rhai mannau newydd, mannau o bosib nad sydd yn cael mwynhau cerddoriaeth fyw Gymraeg yn gyson. Mae’r albwm Haul Bach yn un hynod arbennig a bydd gweld Iwan yn ei pherfformio yn brofiad bythgofiadwy.”
Mae tocynnau ar gyfer y daith ar werth nawr, a bydd un dyddiad ychwanegol yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Mae ‘Haul Bach’ allan nawr ac ar gael i’w brynu’n ddigidol, ac ar CD a finyl trwy Bandcamp.
Ers cael eu ffurfio gan y tri brawd o Ben Llŷn – Iwan, Aled a Dafydd Hughes – yn 2005, mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi ennill clod a sylw ehangach, gan gael eu chwarae ar BBC Radio 2, Radio 3 a 6 Music, a derbyn sawl enwebiad am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Enillodd eu halbwm blaenorol, ‘Mynd â’r Tŷ am Dro’ (2024), Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dyddiadau taith ‘Haul Bach’:
30 Hydref – Eglwys Norwyaidd, Caerdydd
31 Hydref – Tŷ Tawe, Abertawe
7 Tachwedd – Nant Gwrtheyrn
20 Tachwedd – Neuadd y Dref, Rhuthun
27 Tachwedd – Hanging Gardens, Llanidloes