Lefelau aelodaeth

Ymunwch â Chlwb Y Selar nawr trwy ddewis pa bynnag un o’r lefelau aelodaeth isod sy’n mynd a’ch ffansi.

Dyma ffordd wych i chi gefnogi gwaith Y Selar wrth roi sylw i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes ar y naill law, ond hefyd dderbyn llwyth o bethau cerddorol unigryw ar y llall.

Mae sawl lefel o aelodaeth ar gyfer y Clwb – cliciwch ‘Dewis’ ar yr opsiynau isod i weld beth mae pob un yn ei gynnig. Mae modd i chi hefyd ddewis aelodaeth ‘ffan’, sy’n rhad ac am ddim, ac yn golygu byddwch yn derbyn e-gylchlythyr achlysurol gyda newyddion Y Selar.

Cofiwch bod Y Selar yn cynnig cylchgrawn a gwasanaeth ar-lein yn rhad ac am ddim, ac rydym am barhau i wneud hynny. Trwy ddod yn aelod o Glwb Y Selar, gallwch ein helpu i sichrau hynny. Diolch x

Lefel Pris  
Ffan Am ddim Dewis

Cofrestrwch fel ffan Y Selar i dderbyn ein e-gylchlythyr achlysurol gyda newyddion am Y Selar, a’r sin gerddoriaeth.

Roadie £5.00 bob blwyddyn. Dewis
  • Copi o’r cylchgrawn yn y post (dwywaith y flwyddyn)
  • Ebost misol y clwb, yn cynnwys cynigion arbennig cerddorol
Drymiwr £10.00 bob blwyddyn. Dewis
  • Copi rhifynnau Selar x 2 trwy’r post gyda rhodd bach bob tro
  • Ebost misol y clwb, yn cynnwys cynigion arbennig cerddorol
  • Anrheg Nadolig gan Y Selar
Basydd £20.00 bob blwyddyn. Dewis
  • Copi rhifynnau Selar x 2 trwy’r post gyda rhodd bach bob tro
  • Ebost misol y clwb, sy’n cynnwys cynigion gan bartneriaid
  • Anrheg Nadolig gan Y Selar
  • Cyfle cyntaf i brynu copi record feinyl aml-gyfrannog Y Selar (nifer cyfyngedig) gyda 25% o ostyngiad i’r pris
  • Copi o flwyddlyfr Y Selar
Gitarydd blaen £30.00 bob blwyddyn. Dewis
  • Copi rhifynnau Selar x 2 trwy’r post gyda rhodd bach bob tro
  • Ebost misol y clwb, sy’n cynnwys cynigion gan bartneriaid (disgownt codes a ballu gan labeli ac ati)
  • Anrheg Nadolig gan Y Selar
  • Copi o flwyddlyfr Y Selar
  • Copi o record feinyl aml-gyfrannog (nifer cyfyngedig) Y Selar
  • Crys T Y Selar wrth ymuno
Prif ganwr £50.00 bob blwyddyn. Dewis
  • Copi rhifynnau Selar x 2 trwy’r post gyda rhodd bach bob tro
  • Ebost misol y clwb, sy’n cynnwys cynigion gan bartneriaid (disgownt codes a ballu gan labeli ac ati)
  • Anrheg Nadolig gan Y Selar
  • Copi o flwyddlyfr Y Selar
  • Copi o record feinyl aml-gyfrannog (nifer cyfyngedig) Y Selar
  • Crys T Y Selar wrth ymuno
  • Cael eich henwi fel ‘Cyfaill Y Selar’ ar dudalen 3 pob rhifyn o’r cylchgrawn
Rheolwr £100.00 bob blwyddyn. Dewis

  • Poster mawr o glawr rhifynnau newydd Y Selar, wedi’i lofnodi gan yr artist ar y clawr
  • Tocyn VIP i unrhyw ddigwyddiad bydd Y Selar yn trefnu

← Yn ôl i’r hafan

(*nid yw Y Selar yn honni bod unrhyw aelod band yn fwy gwerthfawr nag un arall…wir yr ?)

Mewngofnodwch i’ch cyfrif Clwb Selar er mwyn golygu ei proffil, newid eich lefel aelodaeth neu ganslo.