Rhyddhau ‘Hapus’ gan Vampire Disco

Mae’r DJ a’r cynhyrchydd, Vampire Disco, wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Hapus’. Vampire Disco ydy prosiect diweddaraf y cerddor Alun Reynolds, sydd wedi arbrofi gydag amryw brosiectau cerddorol yn y gorffennol gan gynnwys Panda Fight a JJ Sneed – pwy all anghofio’r ‘air sax’ enwog eh?

Ail albwm Cwtsh ar CD

Mae ail albwm y band Cwtsh bellach ar gael ar ffurf CD. Rhyddhawyd ‘Llinell Amser’ yn wreiddiol ym mis Mawrth eleni, ond yn y lle cyntaf, dim ond ar y llwyfannau digidol oedd hwn ar gael.