Moletrap yn ôl gyda sengl newydd 

Mae’r band dwy-ieithog o Bowys, Moletrap, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf.   ‘Middle Of The Land’ ydy enw’r trac newydd ganddynt ac mae’n adlewyrchu ar y golled o dafodiaith a’r effaith mae hyn yn ei gael ar hunaniaeth, ei fregustod a phwysigrwydd dal gafael ar yr hyn sydd ar ôl ohono.