Cyfle cyntaf i weld…fideo ‘Lleuad Ddu’ gan Parisa Fouladi

Wrth i Gymru herio Iran yng Nghwpan y Byd heddiw, mae’n briodol iawn fod y gantores Gymreig-Iranaidd o Gaerdydd, Parisa Fouladi, yn rhyddhau ei sengl newydd hefyd. ‘Lleuad Ddu’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n dilyn llwyddiant senglau blaenorol Parisa, sef ‘Siarad’, ‘Achub Fi‘ a ‘Cysgod yn y Golau‘.

Cyfle cyntaf i weld: Fideo sesiwn byw ‘Tragwyddoldeb’ gan BOI

Wythnos cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, mae’r grŵp newydd cyffrous BOI wedi rhyddhau sengl newydd sy’n dod â dŵr i’r dannedd wrth i ni edrych ymlaen at y record hir. ‘Tragwyddoldeb’ ydy enw’r trac diweddaraf i ollwng gan y grŵp sy’n cynnwys dau o gyn-aelodau Big Leaves, ynghyd â thri cherddor amlwg iawn arall.