Cyhoeddi lein-yp llawn Gwobrau’r Selar
Wrth i bleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar gau, rydyn ni hefyd wedi datgelu lein-yp y gig eleni. Caeodd y bleidlais ar nos Wener 23 Ionawr gyda channoedd o bobl yn bwrw pleidlais dros y 10 categori agored.
Erthyglau da i’w cynnwys yn y cylchlythyr
Wrth i bleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar gau, rydyn ni hefyd wedi datgelu lein-yp y gig eleni. Caeodd y bleidlais ar nos Wener 23 Ionawr gyda channoedd o bobl yn bwrw pleidlais dros y 10 categori agored.
Bydd Ani Glass yn ymweld â Dulun ddiwedd mis Tachwedd er mwyn perfformio caneuon o’i halbwm diweddaraf, ‘Phantasmagoria’.
Mae Cleif Harpwood wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 16 Ionawr. ‘Paid a Phwyntio Bys’ ydy’r trac diweddaraf gan ganwr y band enwog Edward H Dafis, ac mae allan ar label Recordiau Sain.
Bydd Gwenno yn perfformio fel cefnogaeth i’r seren bop byd-eang, Mika, wrth i’r cerddor berfformio yng Nghaerdydd fis Mehefin.
Mae asiantaeth PYST wedi cyhoeddi manylion eu pedwaredd taith ar y cyd. Lleuwen fydd prif artist y daith y tro hwn, gyda gigs mewn naw o leoliadau ledled Cymru yn ystod mis Chwefror.
Mae’r band Hap a Damwain wedi rhyddhau eu sengl newydd ers 1 Ionawr. ‘Ionawr’ ydy’r enw priodol iawn ar y trac newydd sydd allan ers diwrnod cyntaf y flwyddyn.
Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi manylion dyddiad a lleoliad digwyddiad byw Gwobrau’r Selar. Y newyddion mawr ydy bydd y noson yn dychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef y lleoliad lle cynhaliwyd y digwyddiad yn hynod lwyddiannus rhwng 2015 a 2020.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi datgelu manylion sioe arbennig fydd yn talu teyrnged i’r band o Aberteifi, Ail Symudiad, wrth i’r ŵyl ymweld â’r ardal honno ym mis Awst 2026.
Geiriau: Gruffudd ab Owain Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi dyfod unwaith eto… na, nid yr amser i stwffio’r Twrci a phanig-brynu archebion (os ydych chi dal yn sdỳc, beth am aelodaeth i Glwb Y Selar?), ond yr amser i fwrw golwg ar yr artistiaid ifainc y dylem ni gadw llygad arnyn nhw yn y flwyddyn sydd i ddod.