Mellt yn ôl gyda sengl newydd

Mae’r triawd indie-roc o Aberystwyth, Mellt, yn ôl gyda sengl sy’n cynnig blas o’u halbwm nesaf. ‘Byth Bythol’ ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos ganddynt ar label Clwb Music ac mae’n damaid arall i aros pryd nes rhyddhau eu hail albwm.

Sengl Al Lewis – ‘Fatherly Guidance’

‘Fatherly Guidance’ yw’r bedwaredd sengl oddi ar ‘Fifteen Years’, albwm newydd Al Lewis fydd allan ar 12 Ionawr 2024, ac mae’n dilyn ‘The Farmhouse’, gafodd ei henwebu ar gyfer Cân Werin Saesneg y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023, yn ogystal â’i senglau diweddar, ‘Feels Like Healing’ a ‘Never Be Forgotten’.