SACHASKY – prosiect newydd skylrk. a Sachasom
Mae dau o gerddorion ifanc mwyaf arbrofol a diddorol y sin Gymraeg ar hyn o bryd wedi dod ynghyd i ffurfio prosiect cerddorol newydd dan yr enw SACHASKY.
Mae dau o gerddorion ifanc mwyaf arbrofol a diddorol y sin Gymraeg ar hyn o bryd wedi dod ynghyd i ffurfio prosiect cerddorol newydd dan yr enw SACHASKY.
Mae Yws Gwynedd wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 12 Mai. ‘Charrango’ ydy enw’r trac newydd gan un o ser mwyaf y sin Gymraeg ac mae hefyd wedi cyhoeddi fideo i gyd-fynd â’r sengl.
Mae’r band o Wynedd, Achlysurol, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf dan yr enw Rhywle Pell. Triawd o’r Felinheli ydy Achlysurol, sy’n cynnwys y brodyr Aled ac Ifan Emyr, a’u ffrind Ifan Rhys Williams.
Mae Mei Gwynedd wedi rhyddhau ei albwm newydd sy’n gasgliad o fersiynau newydd o hen ganeuon traddodiadol cyfarwydd.
‘Yn Ôl i Lydaw’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf i’w rhyddhau gan y cerddor profiadol, Mered Morris.
Mae label Recordiau Sain wedi rhyddhau albwm aml-gyfrannog newydd sbon o siantis a chaneuon morwrol gyda chyfraniadau gan rai o artistiaid gwerin amlycaf Cymru.
Mae trefnwyr Gŵyl Cefni yn Llangefni, Ynys Môn wedi cyhoeddi bydd yr ŵyl yn dychwelyd i’w hen leoliad ym Maes Parcio Neuadd y Dref yn Llangefni.
Mae label Recordiau I KA CHING wedi cyhoeddi dyddiad rhyddhau albwm y cerddor Dafydd Owain. Mae Dafydd yn gyfarwydd fel aelod o’r bandiau Eitha Tal Ffranco, Jen Jeniro a Palenco yn y gorffennol, ond ers dechrau’r flwyddyn mae wedi bod yn cyhoeddi cerddoriaeth fel artist unigol.
MaeGwilym wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf gydag addewid o albwm i ddilyn yn fuan. ‘IB3Y’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh, ac sy’n flas o’r hyn y gallwn ni ddisgwyl ar ail albwm y grŵp poblogaidd o Fôn ac Arfon.