Gwilym ar daith ddiwedd Medi

Mae’r band poblogaidd Gwilym wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs ganddynt ddiwedd mis Medi. Daw’r newyddion yn fuan ar ôl i’r band ryddhau eu hail albwm, ‘Ti Ar Dy Ora Pan Ti’n Canu’ – bu iddynt ryddhau’r albwm fel dau ran, sef dau EP chwech trac yr un.