Cylchgrawn Cymraeg yw ‘Y Selar’, a sefydlwyd yn 2004, ac sy’n rhoi sylw i bob peth yn ymwneud a’r sîn gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, a chaiff ei gyhoeddi yn chwarterol. Ariennir y cychgrawn gan grant Cyngor Llyfrau Cymru a’i ddosbarthu i siopau Cymraeg, canolfannau amrywiol, prifysgolion ac ysgolion uwchradd trwy gymorth Mentrau Iaith Cymru.