Yn ysgubo ledled Cymru yn gynt na Siôn Corn ei hun, cyflwyna Cabarela noson o ffraethineb Nadoligaidd coch. Dyma’r esgus perffaith am barti wrth i chwiorydd afieithus y grŵp Sorela gyflwyno parodïau coch y Divas a Diceds, dychan di-flewyn-ar-dafod y canwr Hywel Pitts, ac ambell syrpréis arall. Trefnwyd gan Gigs Cantre’r Gwaelod.
Oedran: 16+
£15
Cymraeg

Sul, 23 Rhagfyr 2018
Cabarela Nadolig
Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth Hyd at 23 Rhagfyr 2018, 22:00 (£15)