Mae Gŵyl arbennig iawn yn cael ei threfnu ar gyfer penwythnos Dydd Sadwrn 22ai o Fedi eleni, i ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn!
Bydd llond y pentref o ddigwyddiadau yn mynd ymlaen yn ystod yr wythnos cynt, ac ar y dydd Sadwrn, gan gynnwys:
Arddangosfa ‘Hanesyddol’ yn dilyn datblygiad y Nant rhwng 1978 a 2018
Prynhawn Sadwrn – Darlith R. S. Thomas, Yr Athro Jason Walford Davies
Prynhawn Sadwrn – Gweithgareddau a the parti i’r plant
Yn ystod yr wythnos – Rasys Rhys a Meinir a Ras Elis Bach ar gyfer plant
Am 6 o’r gloch ar y nos Sadwrn, bydd gig yr Ŵyl, gyda:
Band Pres Llareggub
Alys Williams
Geraint Løvgreen a’r enw da
Patrobas
Gwilym Bowen Rhys
Gethin a Glesni
Hyn oll am £15, felly dewch i helpu ni ddathlu!