Gwener, 14 Rhagfyr 2018

Gadael Tir – Owen Shiers

Hyd at 14 Rhagfyr 2018, 21:45

Gadael Tir

Mae Gadael Tir yn adrodd hanes hawliau tir a phrotestiadau yng Nghymru. Mae’r sioe yn cyflwyno stori’r werin trwy gorysau caneuon traddodiadol; hanesion enbyd am anobaith a dyfalbarhad; ffermwyr sy’n traws-wisgo ac yn trin bwyelli; pregethwyr radicalaidd, gweithwyr tir ac undebau, y cyfan yn cael eu cwmpasu gan fil o flynyddoedd o hanes, wedi’i wasgu i mewn i un perfformiad. Perfformir yn y Gymraeg.