TOCYNNAU: £8 / £6 (myfyrwyr/Plant 14+) ymlaen llaw
£10 ar y diwrnod
I ddathlu rhyddhau eu halbwm newydd ‘Inspirational Talks’ bydd HMS Morris yn perfformio set unigryw yn theatr Galeri .
Bydd cyfle i glywed caneuon oddi ar yr albwm am y tro cyntaf, ac i gael eich crafangau ar gopi cyn unrhyw un arall!
Yn cefnogi HMS Morris bydd y band hynod gyffrous, ‘Smudges’. Mae Smudges yn gydweithrediad rhwng dau artist unigol, sef Rhodri Brooks ac Eugene Capper. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf nhw ‘Pontvane’ ar recordiau Bubblewrap ym mis Medi, ac mae caneuon newydd ar y ffordd.