Mae gŵyl gerddoriaeth acwstig gyntaf Aberystwyth, Sŵn y Môr, yn dathlu talentau cerddorol lleol, ynghyd â hanes cyfoethog Ceredigion o ran caneuon, dawnsiau a chwedlau gwerin gyda Brenig a The Meadows (20 Hydref), a Band Pres Llareggub (21 Hydref). Mae lleoliadau ledled Aberystwyth wedi dod ynghyd i gynnal penwythnos o berfformiadau byrfyfyr, cyngherddau, gweithdai i blant a mwy.
19 Hydref – Digwyddiadau cerddorol am ddim o gwmpas y dref
20 Hydref – Brenig a The Meadows
7.30yp
£10.00
Er mwyn dathlu cerddoriaeth werin ar ei gorau, bydd y band gwerin chwedlonol Brenig yn ymuno â’r band traws-genre Celtaidd, The Meadows.
21 Hydref – Diweddglo Sŵn y Môr gyda Llareggub
3yp
£12.00
Bydd diweddglo mawreddog Sŵn y Môr yn cynnwys perfformiad gan Fand Pres Llareggub, sy’n cyfuno elfennau ffyrnig ond blasus o jazz, Hip Hop a rhywfaint o gerddoriaeth bop Gymreig.