Gwener, 7 Medi 2018

The Gentle Good ac Elan Catrin Parry

Hyd at 7 Medi 2018, 23:00 (£6)

Bydd y Canwr-Gyfansoddwr Gwerin hynod dalentog o Gaerdydd, Gareth Bonello, yn dychwelyd i Wrecsam ar ôl perfformiad gwefreiddiol yn Eglwys Sant Silyn yn ystod gŵyl Focus Wales ym mis Mai.

Hefyd, bydd y gantores ifanc lleol gyda’r llais hyfryd, Elan Catrin Parry, yn canu caneuon o’i halbwm newydd ‘Angel’.

Tocynnau am £6 o Saith Seren o 15/08. Bydd nifer cyfyngedig felly peidiwch oedi. Noson ddwyieithog.