Noson o rannu caneuon i ysbrydoli yng nghwmni dwy o brif artistiaid cerddorol Cymru.
Er bod Siân James a Lleuwen Steffan o ddwy genhedlaeth ac o gefndiroedd gwahanol i’w gilydd maen nhw’n rhannu yr un anian ac ysbrydoliaeth mewn caneuon Cymraeg. Wrth gyflwyno rhai o’r caneuon a’r emynau oddi ar eu recordiau diweddaraf Gosteg a Gwn Glân, Beibl Budr yn ogystal â rhai o’u ffefrynau personol, bydd yn noson sy’n siwr o greu gwefr.
Bydd Siân a Lleuwen yn trafod a pherffomio caneuon eu hunain a chaneuon eu gilydd, yn unigol ac ynghyd o fewn naws arbennig y theatr.