Sadwrn, 16 Chwefror 2019

Gwobrau’r Selar – Gwilym, Mei Gwynedd, Los Blancos, Breichiau Hir, Wigwam, Trŵbz

Hyd at 17 Chwefror 2019, 01:00 (£15)

*Tocynnau wedi gwerthu allan*

Lein-yp nos Sadwrn:

Gwilym, Mei Gwynedd, Los Blancos, Breichiau Hir, Wigwam, Trŵbz

Mae Gwobrau’r Selar yn ôl unwaith eto, ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth fydd canolbwynt y dathlu unwaith eto ym mis Chwefror 2019.

Yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol, byddwn ni’n cynnal y gwobrau dros ddwy noson yn yr Undeb y tro yma gyda lein-yp llawn ar y ddwy noson ynghyd â chyflwyno nifer o wobrau ar y ddwy hefyd.