Gwener, 15 Hydref 2021 – Sul, 17 Hydref 2021

Sŵn 2021

Hyd at 17 Hydref 2021, 23:00 (£20-40)
Eleni bydd Sŵn wedi’i leoli’n gyfan gwbl o fewn Womanby Street – calon sîn gerddoriaeth fyw Caerdydd, rhwng Hydref 15 – 17. Y gigfannau a fydd yn cymryd rhan eleni fydd Clwb Ifor Bach, Fuel, The Moon a Tiny Rebel.
Efallai y bydd yr ŵyl eleni ar raddfa llai, ond byddwn yn dal i gadw at ein haddewid i gyflwyno penwythnos llawn dop o ddarganfyddiadau newydd cyffrous.
Mae Caerdydd wedi colli allan ar lawer o artistiaid newydd gwych oherwydd diffyg digwyddiadau byw, a bydd y line up eleni yn llawn cymaint o berlau newydd ag y gallwn ffitio dros yr ŵyl (yn ogystal â rhai cyfrinachau arbennig).
Leinyp yn cynnwys:
Clara Mann, Clwb Fuzz, Coach Party, Dead Method, Deadletter, deep tan, Eädyth, Enola Gay, French Alps Tiger, George Cosby, Hamish Hawk, Han L A, Hana Lili, Holiday Ghosts, Honeyglaze, Hyll, John Myrtle, Lady Bird, LARRY PINK THE HUMAN, Lice, Live, Do Nothing, Lynks, Martha Gunn, Melin Melyn, Naima Bock, Panic Shack, Papur Wal, Pigeon Wigs, Pys Melyn, Real Lies, Red Telephone, Rhodri Brooks, Rona Mac, Sam Barnes, SHLUG, Shreddies, Sinead O’Brien, Sister Wives, Speedboat, SYBS, Teddy Hunter, Thallo, The Bug Club, The Goa Express, The Lounge Society, Tiger Bay, Wooze, XL Life