Gwener, 21 Hydref 2022

Gigs Tŷ Nain 5: Gwilym, Elis Derby, Hana Lili + Lelog

Hyd at 21 Hydref 2022, 23:55 (£10 / £12 ar y diwrnod)
Ymunwch â chriw Gigs Tŷ Nain yn eu gig olaf ar nos Wener, Hydref 21ain. Yn dod â’r gyfres o gigs poblogaidd i ben bydd Gwilym, Elis Derby, sydd wrthi’n hyrwyddo ei ail albwm, yr artist ifanc o Gaerdydd, Hana Lili, a’r grŵp newydd o’r Bala, Lelog.
Dewch i ffarwelio hefo Gigs Tŷ Nain mewn steil!
Tocynnau £10 / £12 ar y diwrnod.
Drysau am 19:00 gyda’r band cyntaf ymlaen am 19:20.
Canllaw oed: 14+ (gydag oedolyn), 16+ (heb oedolyn)