Mawrth, 1 Chwefror 2022

IVW 2022: N’famady Kouyaté

Hyd at 1 Chwefror 2022, 23:00 (£5)

Yn ymuno gyda ni am Independent Venue Week ar Nos Fawrth y 1af o Chwefror bydd N’famady Kouyaté! Roedd N’famady wedi rhyddhau ei EP cyntaf “Aros i Fi Yna” yn cynnwys caneuon gyda Lisa Jên (9Bach) a Gruff Rhys ar Recordiau Libertino yn 2021. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu N’famady yn nôl i Abertawe ar ôl ei set agoriadol ardderchog fel rhan o lwyfan Focus Wales yn Sin City yn ystod Gŵyl Ymylol Abertawe 2021.