Sadwrn, 30 Ebrill 2022

MR, Kim Hon, Tiger Bay

Hyd at 30 Ebrill 2022, 23:00
‘Da ni’n hapus i gyhoeddi bod un o’n hoff artistiaid, MR, yn dychwelyd i Galeri ar gyfer dathliad arbennig Dydd Miwsig Cymru 2022! Mewn partneriaeth gyda Clwb Ifor bach a gyda chefnogaeth gan Kim Hon a Tiger Bay, bachwch docyn cyn gynted a phosib – tydi hi ddim yn un i’w fethu!
Drysau @ 19:00 gyda’r band cyntaf ymlaen @ 19:30
Holl elw yn mynd tuag at bartneriaeth gyffrous newydd rhwng Galeri Caernarfon a Clwb Ifor bach i gefnogi’r sîn gerddoriaeth Gymraeg.
Canllaw oed: 14+ (gydag oedolyn), 16+ (heb oedolyn)