Mercher, 30 Tachwedd 2022

Mr Phormula’n fyw yn y Llyfrgell

Hyd at 30 Tachwedd 2022, 19:30

Mae Gigs y Gaeaf yn cyflwyno Mr Phormula – artist sy’n dolennu cerddoriaeth yn fyw a bît-focsiwr arloesol – yn fyw yn Llyfrgell Conwy.

Gyda gyrfa mor amrywiol â thirwedd Cymru, lle mae ei wreiddiau’n ddwfn, mae Mr Phormula’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel bît-focsiwr, rapiwr a chynhyrchydd blaenllaw o ganlyniad i’w berfformiadau a chyfansoddiadau lleisiol ysbrydoledig.

Bydd caffi Cantîn yn aros yn agored yn hwyr ar gyfer yr achlysur, ac yn gweini cawl, panini a chacennau.

Rhaid i blant a phobl ifanc fod yng nghwmni oedolyn.

Rhan o’r rhaglen Gigs y Gaeaf – am ragor o wybodaeth ewch i Gigs Y Gaeaf