Ymunwch â Dafydd Owain ar daith gerddorol i fyd dychmygol Uwch Dros y Pysgod. Bydd y cerddor dawnus yn camu ar lwyfannau yng Nghaernarfon a Chaerdydd am ddwy noson fythgofiadwy, wrth iddo lansio ei albwm unigol cyntaf, ‘Uwch Dros y Pysgod’.
Gyda chyfres o senglau oddi ar ei albwm gyntaf eisoes wedi profi’n boblogaidd, gan gynnwys ‘Uwch Dros y Pysgod’ (Trac yr Wythnos BBC Radio Cymru) a ‘Gan Gwaith’, mae Dafydd yn cynnig cyfle prin i brofi’r albwm llawn yn fyw gyda’i fand llawn.