Gwener, 31 Mawrth 2023

Matthew Frederick – The Belated ‘Fragments’ Tour

Mae Matthew Frederick yn clymu’i gariad cynnar o gerddorion clasurol gyda dylanwadau mwy diweddar i greu cyfuniad nodedig a bythol o bop acwstig, gwerin indi, baledi a’r blŵs, hefo ychydig o Gymrucana a cherddoriaeth clasurol cyfoes yn y cymysgedd. Mae’r cerddor o’r Rhondda wedi perfformio sioeau ar draws y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau, yn ogystal â bod yn brif leisydd Climbing Trees – ffefrynnau’r prosiect BBC Gorwelion. Ers rhyddhau ei EP unigol cyntaf, Venus & Mars yn 2012, mae’r cerddor wedi rhyddhau 5 albwm, 2 EP ac 16 sengl, ac mae ei draciau’n cael ei chwarae gan rai megis Netflix, Sky ac ITV.
Yn ogystal ag ymddangos mewn amrwyiol gwyliau (Y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Y Gelli), rhaglenni deledu (BBC, S4C) a radio (BBC Radio 1, 6 Music), mae Frederick hefyd wedi recordio yn stiwdios eiconig Maida Vale yn Llundain, wedi chwarae hefo Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ac wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig am albwm cyntaf Climbing Trees, Borders.
Ymunwch â ni yn Oriel Gregynog am noson arbennig o gerddoriaeth fyw.